CYMDEITHAS

TED BREEZE JONES


Chwilotwch drwy ein gwefan neu drwy ôl-rifynnau o'n cylchgrawn

Cliciwch YMA i ddarllen erthyglau gan Tom Jones, Golan

Adar ymfudol
Addasiad o sgwrs Twm Elias ar Galwad Cynnar, Radio Cymru (Mawrth, 2011)


Wel, mae hi bron yn ganol Mawrth, ac mae hi’n gyfnod i edrych ymlaen i groesawu’r adar ymfudol cynta – h.y., y rhai cynta i gyrraedd yn ôl wedi iddyn nhw dreulio’r gaeaf yng ngwres Affrica. Adar fel tinwen y  garn, y siff-saff ac, erbyn diwedd y mis, gwennol y glennydd a thelor yr helyg. Ond, fydd yr adar welwn ni ym mis Mawrth ddim yn aros i nythu yma. Ar eu ffordd i’r gogledd mae nhw, e.e. bydd tinwenod y garn mis Mawrth yn anelu am Wlad yr Iâ– ac mi fyddan nhw wedi cychwyn ynghynt i gael y llawn fantais ar y biliynau (yn gymylau tew) o bryfid duon blasus geir yn Nhwndra yr Arctig dros yr haf byryno. [ym mis Ebrill y bydd y tinwenod sy’n nythu yma yn cyrraedd.]

Symud mae’r adar i wneud y gorauo’r tymhorau – gan symud at eu bwyd. Felly, ddiwedd yr haf, mi fyddan nhw’n dianc rhag ein gaeafau oerllyd di-bryfed ni a’i heglu hi am Affrica lle fydd hi’n gychwyn  ar y tymor gwlyb pryfedog yno (= eu haf nhw, ein gaea ni). Yna, ddechrau’r flwyddyn, mi ddaw yn dymor sych a di-bryfed yno (yn cyfateb i’n haf ni), a dyna pryd fydd hi’n amser i ddŵad yn ôl i Gymru fach lle bydd y coed ddechra’r ha’ yn drwm o lindys i’r cywion.

Dros y gaeaf mi gawn ni ymwelwyr eraill sy’n dŵad i fedi’r cnydau toreithiog o aeron, hadau a ffrwythau y mae Natur Fawr yn ddarparu o’r hydref ymlaen; a’r holl lyngyr, llwgwnsachregyn mân gynigir ar gyfer rhydyddion yng nghaffi lleidiog yr aberoedd. Ond mi fydd ein hymwelwyr gaeaf ni – fel y socan eira a’r goch dan adain, ar ôl dychwelyd adra yn y gwanwyn, yn troi’n lindys-fwytawyr dros yr haf, a rhydyddion fel pibydd y mawn yn troi’n bry-fwytawyr oherwydd y digonedd sydd i’w gael ym mawndir y Twndra neu fawnogydd ucheldiroedd yr Alban. Mae hydnoed cywionyr elyrch a’r gwyddau ddaw i bori ar ein morfeydd ni dros y gaeaf yn dal llawer o bryfid wrth bori blagur planhigion y Twndra. Mae pryfid yn brotin gwerthfawr ’dach chi’n gweld, yn enwedig i gywion ar eu prifiant.  

Mae ymfudo tymhorol yn strategaeth ryfeddol o synhwyrol – os ydach chi’n ddigon abali deithio pellteroedd, a bod rhywbeth gwerth chweil ichi y pen arall. Ew mi f’aswn i wrth fy modd yn medru codi mhac (fel y gwna rhai) am Bortiwgalneu Batagonia bob gaeaf. ’Swn i ddim yn meindio osgoimis Chwefror yn arbennig – yr hen ‘fis bach, mawr ei anghysuron’ hwnnw.

Ond mi fyddai pobol yn arfer ymfudo ar un adeg. Yn yr Oes y Cerrig gynnar, ryw 8,000 mlynedd yn ôl mi fyddai helwyr cyntefig yn dilyn ymfudiad y ceirw o’r cyfandir (lle buon nhw dros y gaea’) i ynysoedd Prydain (roedd cyswllt tir â Ffrainc bryd hynny) lle ceid porfa dros yr haf – symud jyst fel pobol y Saami yn Lapland heddiw. Yn fwy diweddar – hyd at ryw ddwy ganrif yn ôl mi fyddai ein cyndeidiau yn ymfudo’n dymhorol rhwng Hafod a Hendre efo’u hanifeiliaid. 

Ydi mae’r busnes ymfudo ’ma yn rhyfeddol. Mae anifeiliaid yn gwneud hynny (ar raddfa leol yma) e.e., llwynogod yn dwad lawr i’r glannau dros y gaeaf a’i hel hi’n ôl i’r mynydd i fagu’u cnafon yn y gwanwyn. Ddim cweit cyn belled a theithiau Byffloeau gogledd America; wilderbîst y Serengeti na cheirwLlychlyn a Chanada efallai.  A be am bysgod? Mae ymfudiad sliwod o’r Sargasso, eogiaid a gwyniaidi fagu yn ein hafonydd ni, a symudiadau tymhorol pysgod môr, fel mecryll, penwaig a mingrwn ayyb yn drawiadol iawn. Ac mae hydnoed ieir bach yr ha’ a gwyfynod yn cyrraedd yma bob gwanwyn o ogledd Affrica.   

Mae ymfudiad adar yn ddifyr iawn – efo cyn gymaint o amrywiaethau i’r stori ag sy’ ’na o wahanol fathau o adar – rhai yn aros yn eu tiriogaeth heb symud fawr ddim (e.e. titws); eraill yn symud ond ychydig filltiroedd, e.e., o’r ucheldir i’r llawr gwlad agosa (ydylluan glustiog); a rhai yn hapus i aros lle mae nhw (tra bod digon o fwyd ar gael) ac yn mudo ddim ond pan fyddraid, e.e. socan eira cyn eira mawr, ac wedyn mae gennych chi’r rhai sy’n mudo go iawn (fel wenoliaid) sy’n croesi cyfandiroedd.  

Un peth dwi’n ffeindio yn eithriadol o ddifyr am ymfudiad yr adar – a hynny ar wahân i deithiau anhygoel rhai ohonyn nhw ydi eu hamseriadnhw. Ia, mor bwysig ydi cael hynny’n iawn ynde? A pha morberyg ydi methu â’i gael o’n iawn, am pa bynnag reswm.

Mi ddechreuith ein hadar brodorol ni nythu yn reit gynnarambell i flwyddyn. Mae ’na sawl cyfeiriad yndoes at adar bach yn codi nyth – os ydi hi’n wanwyn cynnar a thynner iawn – cyn gynhared a mis Chwefror / ddechra Mawrth [ond ddim leni chwaith!]. Wel, chwara teg iddyn nhw am drïo, ond mae hi’n job go beryg – yn dipyn o gambl meddwl am nythu yr adeg honno o’r flwyddyn – am y medar y tywydd oeri yn sydyn iawn ac i’r cywion lwgu. Mae’r hen air yn hollol wir: ‘Os cân yr adar(= meddwl am nythu)yn Chwefror; Mi fyddant yn crïo cyn Clanmai.’

Ond, os digwydd iddyn nhw lwyddo i fagu cywion cynnar – wel mae’r wobr yn fawr oherwydd mi fydd gan y cywion cynnar yna y fantais aruthrol o gael mwy o amser i fagu profiad yn ystod y flwyddyn. A hefyd, o gael yr hatshad gynta o’r ffordd yn gynnar mi all y rhieni fynd ati i gael 2il, a hydnoed 3dedd hatshad cyn diwedd y tymor.  

Ond heblaw am y siawnswyr yma, mae ’na drefn go bendant i amseriad nythu fel arfer. Y tric, ’dach chi’n gweld, ydi amseru’r cywion i gyd-fynd efo’r cyfnod pryd y mae’r cyflenwad bwyd ar ei orau. E.e., mi fydd cigfrain yn nythu’n Chwefror fel bod cywion yn y nyth adeg y tymor ŵyna – pan mae digon o gyrff a brych o gwmpas. Ac mi fyddyd-frain â chywion ganol Mawrth i fanteisio ar y pryfid genwair/mwydod fydd ar gael pan fydd ffermwyr yn troi’r tir.

Mi fydd yr ymfudwyr haf – y teloriaid, gwybedog brith ayyb yn cyrraedd ganol Ebrill, ac yn mynd ati’n syth i nythu, fel bydd y cywion yn deor erbyn pryd fydd yr holl lindysar ddail y coed derw. Mi fydd ’na ddigonedd o fwyd wedyn – hen ddigon i gyfiawnhau’r daith bell o Affrica. Mae’r gwenoliaidyn cyrraedd tua’r un amser i fanteisio ar dymor y gwybed a’r pryfed.Ond ddaw’r wennol ddu ddim tan ddechrau Mai am mai pryfid sy’n hedfan yn uchel yn yr awyr mae hi ishio. Ddaw’r troellwr mawr ddim tan ddiwedd Mai ar gyfer y gwyfynod fydd ar eu mwya niferus ganol haf. Bydd cywion adar y môr (gwylogod a llursiaid ar y clogwyni) yn hwyr hefyd am mai ganol haf y bydd yr heigiau o bysgod bach (llymrïod) yn dwad at y glannau.

Dyna ydi’r patrwm delfrydol ynde? Ond mae yna bryderon, fel sy’ wedi cael ei grybwyll sawl gwaith ar Galwad Cynnar oherwydd, fel mae’r byd yn cynhesu, mae’r lindys, sy’n fwyd i gymainto adar ymfudol dros yr haf yn dueddol o orffen tyfu a disgyn oddiar y coed yn gyntbob blwyddyn. Ac os nadydi’r cywion wedi gadael eu nythod erbyn hynny – wel, llwguwnân nhw. Ond dwi ddim ishio codi bwganod am hynny rŵan – jyst estyn croeso mawr Cymreig i’r adar bach, a dymuno pob lwciddyn nhw ar gyfer y tymor nythu sy’ ar fin cychwyn o ddifri.

Amser Nythu

Mae amseru’r nythu yn gywir yn eithriadol o bwysig i adar o bob math:

Cigfrain – cywion yn gynnar (Mawrth), i gyfateb â’r tymor ŵyna

Ydfrain – cywion yn y nyth erbyn tua diwedd Mawrth i fanteisio ar y wledd o bryfid genwair fydd ar gael pan fydd ffermwyr yn aredig

Adar bach y coed (titwod, robin, ji-binc, adar duon ayyb) – weithiau’n gynnar, weithiau’n hwyr : yn dibynnu ar y tywydd, gan ei siawnsio hi y bydd tywydd braf yn parhau ac y bydd lindys ar y coed erbyn i’r cywion ddeor

Adar ymfudol (teloriaid, gwybedog brith, tingoch ayyb) – y rhai fydd yn nythu yma yn cyrraedd ganol Ebrill, codi nythod a dodwy fel bo’r cywion yn deor ddiwedd Mai, erbyn pryd y bydd digonedd o lindys ar ddail y coed derw ayyb

Wennoliaid – cyrraedd ganol Ebrill ar gyfer tymor y pryfed o tua canol Mai

Wennoliaid duon – ddim yn cyrraedd tan ddechrau Mai. Mi fyddan nhw ar ôi y pryfed syn hedfan yn uchel yn yr awyr ganol Mehefin / Gorffennaf i’w cywion

Troellwr mawr – ddim yn cyrraedd tan ddiwedd Mai i fanteisio ar y wledd o wyfynod fydd ar gael yn y nos erbyn diwedd Mehefin / Gorffennaf

Gwylogod a llursiaid – yn nythu ar glogwyni’r arfordir. Mae nhw hefyd yn nythu’n hwyr i fedru manteisio ar yr heidiau mawr o bysgod bach (llymrïod)ddaw at y glannau ganol haf.

Ond mae ‘na rai adar – fel adar to a sguthanod – fydd yn nythu bron rownd y flwyddyn, er mai’r gwanwyn yw eu prif dymor nythu. Mae eu bwyd nhw, sef hadau yn bennaf, ar gael dros gyfnod llawer iawn hirach drwy’r flwyddyn.

 

Cigfran gododd y nyth hwn.

Mae nhw yn dewis clogwyn, un ai yn y mynydd neu lan môr fel hyn.

Mae'r nyth bron bob tro ar silff efo’r graig uwchben yn gwyro drosti (‘overhang’ fel ‘tae) i roi cysgod yn un peth ond hefyd i atal gelynion dynol rhag gollwng neu daflu pethau i lawr ar y nyth.

Mae’r gigfran yn un o’r adar cynta i nythu yn y tymor – yn cychwyn ddiwedd Ionawr / ddechra Chwefror fel bod cywion yn y nyth erbyn y tymor ŵyna.

Dyna’r amser gorau o’r flwyddyn iddi fedru ffeindio bwyd yn hawdd am y bydd llawer o gyrff ŵyn bach, a brych ar ôI genedigaeth, ar gael.

 

 

 

 

 

Dyma Fulfran Werdd ar ei nyth