CYMDEITHAS

TED BREEZE JONES


Erthygl a gyhoeddwyd yn Y Cymro yn tua 1954

Y GWR SY'N CASGLU RHEDYN

Gwr ifanc a chanddo ddawn arbennig fel naturiaethwr yw Mr E. V. Breeze Jones, Blaenau Ffestiniog. Bywyd adar yw ei brif ddiddordeb, eithr astudia lawer ar agweddau eraill ar natur. Er enghraifft, astudiodd yn fanwl bob math o redyn.

I leygwyr, efallai, nid yw hyn yn golygu fawr ddim, ond rhaid gweld gasgliad Mr. Jones o'r gwahanol redyn sy'n tyfu yng nghylch Stiniog i lawn-werthfawrogi gymaint sy'n oblygedig mewn astudiaeth o'r math hwn.

Llwyddodd Mr. Jones i gasglu enghreifftiau o bob un ond chwech o'r 34 math o redyn sydd i'w cael yn y cylch. Dangosodd imi Redyn Persli, sy'n nodweddiadol o'r ucheldiroedd ac un, sy'n tyfu ar yr ucheldir, o fil o droedfeddi uwchben lefel y môr, a mwy. Hefyd, dangosodd enghraifft o'r "Killarney Bristle Fern" y cafodd rhai naturiaethwyr enghreifftiau ohono ar Eryri, Meirion ac Arfon. Uchelgais Mr Jones, meddai wrthyf, yw canfod hyd i'r rhedyn hwn yng nghyffiniau Stiniog.

Casglodd Mr. Jones wybodaeth eithriadol o helaeth ynglŷn a symudiadau'r gwahanol adar a geir ym mhlwyf Ffestiniog, ac y mae'n brysur ehangu cylch eil astudiaeth i gynnwys Meirion i gyd. Gwelir yn y llun uchod Fwncath (Buzzard), a Phâl (Puffin) wedi eu stwffio ganddo. Y mae'r orchwyl o stwffio adar yn un bur gywrain ac yn gofyn lawer o ofal. Dywedodd Mr. Jones wrthyf fod y Bwncath yn aderyn pur brin yn awr ond ei fod ar gynnydd yn ddiweddar. Ceir rhai enghreifftiau ohono yng nghylch Stiniog yn ceisio lloches yn y mynyddoedd. Y mae gan Mr Jones hefyd Regen yr Ŷd wedi ei stwffio. Dywed fod oddeutu 122 o wahanol fathau o adar i'w cael yng nghyffiniau Stiniog.

Rhoes Mr Jones gynnig flynyddoedd yn ôl ar heboga, eithr bu farw ei gyw hebog ac yntau yn y broses o'i ddofi - a dyna rai terfyn ar ymgais Mr Jones i atgyfodi'r hen arferiad.

Athro mewn ysgol gynradd yn Nhrawsfynydd yw Mr Jones ar hyn o bryd, a llwyddodd i greu diddordeb mawr ym myd natur ymhlith y plant.

Beth amser yn ôl daeth rhai o'i ddisgyblion a Thylluan Wen (Barn Owl) a oedd wedi torri adai i'r ysgol i'w dangos i Mr Jones. Cadwasant hi yno am rai wythnosau gan ddisgwyl i'w haden fendio. Helai'r plant dyrchod daear a llygod i'w rhoi yn ymborth i'r dylluan. Eithr yn y diwedd nhaid fu ei hanfon i Fildy Caer (Chester Zoo).

Pery'r plant i chwilio am rywbeth y gallant fynd i'w ddangos i Mr Jones a'r peth diwethaf iddynt gyrchu ato oedd neidr — a dyna brofi'r hen air "Chwefror chwyth gyd y neidr oddi ar ei nyth."

Y mae'r ddawn o arlunio yn beth defnyddiol anghyffredin i - naturiaethwyr, a bu Mr. Jones , hynod o ffodus yn y cyfeiriad hwn, oherwydd cydnabyddir ef yn arlunydd campus, ac y mae'n werth gweld y lluniau a dynnodd  o wahanol adar. Y mae hefyd, yn ffodus iawn o fod yn ddringwr da - cynhysgaeth arall hanfodol i naturiaethwr.

Pan ofynnais iddo beth oedd ei brofiad mwyaf cynhyrfus yn ei ymchwil am hynodion natur, dywedodd Mr Jones mai ei brofiad ar lethrau'r Moelwyn a ddeuai i'w feddwl gyntaf. Yr oedd ef wedi ei ollwng i lawr ar râff gan gyfaill o naturiaethwr, ac er bod y rhâff wedi ei sicrhau ar y copa gan y cyfaill, dibynnai Mr. Jones ar fod ei gyfaill yn cadw golwg manwl ar y rhaff. Pan gododd Mr. Jones ei hun i fyny yn ôl, fodd bynnag, cododd ei golon i'w wddf pan welodd fod gyfaill(!) wedi gadael y rhâff ac yn ymgolli mewn rhyw ryfeddod neu'i gilydd.

Profiad cynhyrfus arall gofiai oedd pan roes darn o dir o dan ei draed ag yntau ar fin dibyn enbyd - heb râff. Eithr eithriadau prin iawn yw rhai fel hyn ym myd naturiaethwr fel Mr Jones, oherwydd cymerir gofal eithriadol o fanwl wrth ddringo ac ni pherygla'r naturiaethwr ei fywyd eihun na bywyd neb arall wrth "ddringo'r creigiau serth".

Bydd Mr. Jones ym treulio wyliau i gyd i wylio byd natur.